fbpx

Athro ym Mhrifysgol Caerdydd yn dysgu Cymraeg er mwyn gwella profiadau dysgu ei fyfyrwyr

This post is also available in: enEnglish (Saesneg)

Mae’r Athro Lloyd Llewellyn-Jones, Cadair Hanes yr Henfyd, Archaeoleg a Chrefydd ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi dysgu Cymraeg er mwyn gwella profiadau dysgu ei fyfyrwyr.

Magwyd Lloyd, 51, ger Pen-y-bont ar Ogwr mewn teulu di-Gymraeg, ond bu ganddo ddiddordeb yn yr iaith am oddeutu 25 mlynedd, ers iddo weithio yn yr adran wisgoedd ar yr opera sebon Cymraeg, Pobl y Cwm, a gynhyrchir gan y BBC ac a ddarlledir bob diwrnod o’r wythnos ar S4C.

Esbonia Lloyd:

“Ychydig iawn o Gymraeg roeddwn i’n ei wybod cyn dechrau gweithio ar Pobl y Cwm. Fe wnes i ddysgu llawer am yr iaith, ac roeddwn i’n gallu dysgu tipyn drwy’r glust – roedd y cast a’r criw yn gymorth mawr.

“Serch hynny, pan symudais i’r Alban, lle bûm yn byw am 15 mlynedd, yn naturiol doedd gen i ddim cymaint o gyfle i barhau i ddatblygu fy sgiliau Cymraeg.”

Symudodd Lloyd adref i Gymru ddwy flynedd a hanner yn ôl, gan setlo yn Ffynnon Taf, pan ymgymerodd â’i swydd bresennol fel Cadair Hanes yr Henfyd, Archaeoleg a Chrefydd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Symud yn ôl i Gymru a dechrau ei swydd newydd a ysbrydolodd Lloyd i ailgysylltu â’r iaith mae’n ei charu.

Cofrestrodd Lloyd ar gwrs Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, a redir gan Brifysgol Caerdydd ar ran Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Ymunodd Lloyd â’r cwrs Canolradd, gan fod ganddo eisoes ddealltwriaeth o’r iaith ers ei ddyddiau gyda Phobl y Cwm.

“Yn ogystal â’r cysylltiad â’r diwylliant Cymraeg a’r ymdeimlad o berthyn, y prif gymhelliad dros astudio a gwella fy sgiliau Cymraeg oedd fy myfyrwyr.

“Mae gennym lawer o fyfyrwyr yn y brifysgol a fagwyd mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith. Nawr gallaf wneud mwy i ddarparu ar eu cyfer, boed hynny mewn trafodaethau ar lafar neu arholiadau ysgrifenedig.

“Mae nifer o fyfyrwyr yn cyrraedd y brifysgol ac yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Saesneg am y tro cyntaf – rwy’n credu ei bod hi’n hynod bwysig bod myfyrwyr yn cael cynnig mentora, cefnogaeth a marcio yn eu hiaith gyntaf.”

O ganlyniad i’r holl waith caled a’r anogaeth gan ei diwtoriaid yn Dysgu Cymraeg Caerdydd, mae Lloyd bellach yn rhugl yn y Gymraeg, a dyma hefyd yw ei ddewis iaith.

Mae Lloyd yn annog pawb, waeth beth fo’u lefel sgiliau, i wneud y Gymraeg yn rhan o’u profiad bob dydd. Dywed: “Hyd yn oed os nad ydych chi’n siarad Cymraeg, defnyddiwch yr ychydig rydych chi’n ei wybod. Mae’n ffordd wych o deimlo cysylltiad â’ch gwlad ac ymgysylltu â’ch cymuned.

“Dywedwch ‘bore da’ wrth yrrwr y bws, neu ‘diolch’ wrth y til yn yr archfarchnad; rwyf wedi dysgu bod pawb yn gefnogol iawn ac yn gwerthfawrogi eich bod chi’n gwneud yr ymdrech.

“Os ydych chi am ddysgu Cymraeg, fy mhrif gyngor i fyddai ei ymarfer ble bynnag a phryd bynnag y gallwch chi, gan mai iaith fyw yw hi yn y bôn.”

Sylwadau