fbpx

Cyhoeddi carfan ar gyfer gêmau Portiwgal

This post is also available in: enEnglish (Saesneg)

Mae rheolwr Cymru Jayne Ludlow wedi enwi naw chwaraewr ddi-cap ar gyfer gemau yn erbyn Portiwgal ym mis Tachwedd.

Bydd Ludlow yn rhoi saib i Jess Fishlock a Loren Dykes er mwyn rhoi cyfle i chwaraewyr newydd gael blas o bêl-droed rhyngwladol a fydd Megan Wynne yn cael cyfle i chwarae eto ers chwarae yn erbyn yr Alban yn 2013. Yn ogystal â hynny, bydd Rachel Rowe yn colli allan wrth iddi hi wella o anaf.

Roedd y garfan wedi cael ei chyhoeddi gan blant ar draws Cymru oedd wedi cael ei ysbrydoli wrth i’r tîm dod yn agos i le yng Nghwpan y Byd Merched 2019. Roedd y tîm yn hynod anlwcus wrth iddyn nhw fynd saith gêm heb ildio gôl a chael canlyniadau hanesyddol wrth guro Rwsia 3-0 a gêm ddi-sgôr yn erbyn Lloegr yn Southampton.

Bydd y ddwy gêm yn gemau rhyngwladol llawn, yn wahanol i’r cyhoeddiad gyntaf o un gêm ‘A’ ac un gêm ‘B’.

Sylwadau