fbpx

Cymru I Wynebu Sbaen Yn Stadiwm Principality

This post is also available in: enEnglish (Saesneg)

Bydd Cymru’n dychwelyd i Stadiwm Principality ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen yn yr Hydref.

Tydi tîm Cymru heb chwarae yn y stadiwm ers 2011 ac mae’r gêm yn erbyn carfan Julen Lopetegui ar ddydd Iau, 11eg o Hydref yn darparu gwych i wylio’r gêm gyffrous hon.

Dywedodd Jonathan Ford, Prif Weithredwr CBDC: “Rydym yn edrych ymlaen yn arw at chwarae ynerbyn un o dimau rhyngwladol mwyaf llwyddiannus pêl-droed dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae hwn yn gyfle gwych i’n cefnogwyr wylio tîm arbennig gyda chwaraewyr o’r radd flaenaf. Rydym eisiau rhoi’r cyfle i bawb gael gwylio’r gêm ac mae chwarae’n Stadiwm y Principality yn ein galluogi i wneud hyn.”

Ychwanegodd Rheolwr Stadiwm Principality, Mark Williams: “Heb os mae Stadiwm Principality ynstadiwm pêl-droed o fri sy’n adnabyddus drwy’r byd ac rydym yn falch o groesawu Cymru yn ôl argyfer y gêm yn erbyn Sbaen.

“Y llynedd fe wnaeth Stadiwm Principality gynnal Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr, gan gyd-weithio’n agos gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Mae llu o fawrion y byd pêl-droed wedi troedio’r cae yn ein stadiwm genedlaethol eiconig ac rydymyn edrych ymlaen at weld y genhedlaeth ddiweddaraf o sêr Cymru a Sbaen yn ychwanegu eu henwau at y rhestr hirfaith yn yr Hydref.”

Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru wynebu Sbaen ers 1985, pan sgoriodd Ian Rush (2) a Mark Hughes mewn buddugoliaeth o 3-0 mewn ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd FIFA yn y Cae Ras yn Wrecsam.

Cyn y gêm honno, roedd y ddau dîm wedi wynebu ei gilydd ar bedwar achlysur arall, gyda dwy gêm gyfartal a Sbaen yn ennill y ddwy gêm arall.

Mae Sbaen ymysg y ffefrynnau i guro Cwpan y Byd FIFA yn Rwsia yn yr haf, ble y bydden nhw’n wynebu Portiwgal, Morocco ac Iran yn Grŵp B.

Ddydd Llun, fe wnaeth CBDC gyhoeddi y bydd holl gemau Cynghrair Cenhedloedd UEFA a gemau rhagbforol Ewropeaidd yn cael eu cynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd gyda thocyn Ymgyrch Y WalGoch eto’r darparu gwerth gwych am arian.

Yng Nghynghrair y Cenhedloedd, bydd Cymru’n cystadlu yn erbyn Denmarc a Gweriniaeth Iwerddoncyn i’r enwau gael eu tynnu ar gyfer ymgyrch ragbrofol EWRO 2020 UEFA ym mis Rhagfyr.

Bydd gwybodaeth am docynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Sbaen yn cael ei ryddhau maes o law ar wefan faw.cymru.

Am ragor o wybodaeth am sut i fod yn aelod o’r Wal Goch, cliciwch yma.

Sylwadau