Cyngor yn annog preswylwyr i ystyried cymdogion ar noson Tân Gwyllt
This post is also available in: English (Saesneg)
Gofynnir i breswylwyr fod yn ystyriol o eraill os ydynt yn bwriadu cael noson Tân Gwyllt yn eu cartref.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog y cyhoedd i ystyried cymdogion a all fod yn ofnus neu’n nerfus oherwydd y sŵn a’r bwrlwm.
Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol y Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Warchod y Cyhoedd: “Mae yna nifer o arddangosiadau wedi’u trefnu, yn Sir Ddinbych ac ar draws y rhanbarth, ar gyfer noson Tân Gwyllt, a byddem yn argymell pobl i fynd i’r rhai hynny yn hytrach na chael eu parti tân gwyllt eu hunain yn eu hardd gefn, am resymau diogelwch a chymdeithasol.
“Os yw pobl eisiau cynnal eu digwyddiad eu hunain, byddem yn gofyn iddynt roi gwybod i’w cymdogion mewn digon o amser, fel bod cymdogion yn ymwybodol pryd y bydd y tân gwyllt yn cael eu cynnau. Mae’n rhoi cyfle iddyn nhw wneud trefniadau ar gyfer eu hanifeiliaid anwes neu i wneud cynlluniau i fynd allan os nad ydyn nhw’n dymuno gwrando ar y sŵn.
“Byddem hefyd yn gofyn bod pobl, waeth pa mor brofiadol ydynt, i gymryd pob rhagofal diogelwch arferol, mae damweiniau’n digwydd pan fyddwch yn ddiofal o ran y perygl y gallwch fod ynddo.”
Gallai unrhyw un sy’n dewis defnyddio tân gwyllt mewn dull gwrthgymdeithasol ac anghyfrifol ganfod eu hunain ar yr ochr anghywir i’r gyfraith.
Dan y Rheoliadau Tân Gwyllt fe waherddir pobl rhag cynnau tân gwyllt rhwng 11pm a 7am, ond mae hyn wedi ei ymestyn i hanner nos ar 5 Tachwedd ac i 1am ar Nos Galan, y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a Diwali.
Yn yr un modd, rydym ni’n atgoffa rhieni a phobl ifanc ei fod yn anghyfreithlon i blant dan 18 oed brynu neu fod ym meddiant tân gwyllt.
Mae tân gwyllt yn ffrwydron a dylid cymryd gofal wrth eu trin. Dyma ychydig o gyngor i unrhyw un sy’n ystyried defnyddio tân gwyllt fis Tachwedd yma:
- Prynwch dân gwyllt o fannau ag enw da a byddwch yn wyliadwrus o dân gwyllt a werthir drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
- Peidiwch ag yfed alcohol os ydych chi’n cynnau tân gwyllt.
- Cadwch y tân gwyllt mewn blwch caeedig.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar bob tân gwyllt.
- Cyneuwch nhw hyd braich i ffwrdd, gan ddefnyddio tapr.
- Sefwch yn ddigon pell yn ôl.
- Peidiwch byth â mynd yn agos at dân gwyllt sydd wedi ei gynnau. Hyd yn oed os nad ydyw wedi tanio, fe allai ffrwydro.
- Peidiwch byth â rhoi tân gwyllt yn eich poced na’u taflu.
- Goruchwyliwch blant o amgylch tân gwyllt bob amser.
- Cyneuwch ffyn gwreichion un ar y tro a gwisgwch fenig.
- Peidiwch byth â rhoi ffyn gwreichion i blant dan bump oed.
- Cadwch anifeiliaid anwes y tu mewn.
- Peidiwch â chynnau tân gwyllt swnllyd yn hwyr yn y nos a byth ar ôl 11pm.
- Os ydych chi’n cael coelcerth, cyn ei danio, gwiriwch yn ofalus am fywyd gwyllt a’i dampio’n llwyr ar ôl gorffen.