Digwyddiadau plannu coed yn Y Rhyl yn helpu i wella’r amgylchedd
This post is also available in: English (Saesneg)
Mae nifer o wirfoddolwyr â dawn tyfu pethau wedi bod yn gwneud eu rhan i’r amgylchedd.
Cynhaliwyd cyfres o ddyddiau plannu yn y Rhyl yr wythnos ddiwethaf gan Wasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych fel rhan o brosiect i blannu 18,000 o goed yn y sir.
Mae’r Cyngor yn y broses o blannu 11,000 o goed ar hen domen y Rhyl yng Nglan Morfa, gan drawsnewid y safle yn fan gwyrdd cymunedol ac amlddefnydd, a 7,000 o goed ar safleoedd eraill yn y Rhyl a Dinbych Uchaf.
Mae’r prosiect plannu coed yn rhan o flaenoriaeth gorfforaethol y Cyngor i ddiogelu a gwella amgylchedd y sir.
Dywedodd y Cyng. Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd yn Sir Ddinbych:
“Bydd y prosiect hwn yn darparu newid cadarnhaol ac yn helpu i wella’r amgylchedd yn Sir Ddinbych. Mae’r ardaloedd yn hygyrch iawn i bobl leol gerdded iddynt, a bydd yn eu gwella gan eu gwneud yn fannau glân, gwyrdd a diogel i bawb eu mwynhau. Mae treulio amser mewn mannau agored gwyrdd, sydd wedi eu cynllunio’n dda, yn beth da iawn i’n lles corfforol a meddyliol.
“Bydd y prosiect yn gwella’r amgylchedd ac yn rhoi cyfle i drigolion fwynhau a phrofi natur o fewn eu trefi. Gall gwella a buddsoddi mewn seilwaith gwyrdd helpu i newid agwedd ac ymddygiad pobl, gan newid eu canfyddiad o’r ardal a’u hannog i’w defnyddio mewn modd cadarnhaol.”
Roedd dros 18 o wirfoddolwyr ar draws Sir Ddinbych wedi helpu i blannu 2,000 o goed cynhenid yng Nglan Morfa rhwng 5-7 Rhagfyr.