fbpx

Galw trafodaeth am ba mor berthnasol yw ein lleoedd arbennig

This post is also available in: enEnglish (Saesneg)

Cysylltu pobl gyda lleoedd fydd thema gweithgareddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn yr Eisteddfod eleni.

Bydd y rhaglen fywiog o sgyrsiau, cerddoriaeth ac eitemau yn adlewyrchu gwaith yr elusen ar hyd a lled Cymru ac yn trafod ffyrdd newydd o wneud lleoedd arbennig yn haws i fynd atynt ac yn fwy perthnasol i bobl fel adnodd diwylliannol byw yng Nghymru.

Wrth lansio’r rhaglen dywedodd Justin Albert, Cyfarwyddwr Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol:

“Trwy gyfrwng y rhaglen hon rydyn ni am rannu gyda phobl Cymru rai o’r heriau sy’n eu hwynebu ni, gan ystyried beth allwn ni ei wneud yn wahanol er mwyn cryfhau’r cysylltiad rhwng pobl a’r dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog sydd yn ein gofal ni.

“Mae hefyd yn ddathliad o’r hyn sydd yn arbennig neu yn wahanol am Gymru ac yn wahoddiad i’n helpu ni i lunio’r hyn fydd cyfraniad yr Ymddiriedolaeth i fywyd y genedl yn y dyfodol.”

Bydd yr hynodrwydd arbennig hwn yn cael ei nodi mewn cyfres o ‘Sgyrsiau Sied’ – chwiliwch am sied yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’i oleuadau neon gyferbyn â’r Senedd – a gwrandewch am ganiad y conc 15 munud cyn dechrau pob digwyddiad byw.

Mae canu’r conc yn mynd yn ôl at arfer oedd yn gyffredin mewn rhai cymunedau o ffermydd ar yr ucheldir, pan ddefnyddiwyd y cregyn fel corn i alw ffermwyr nôl i’r tŷ pan roedd hi’n amser bwyd neu os oedd ymwelwyr wedi galw. Byddai’r cregyn yn cael eu cludo nôl adref o’r trofannau fel anrhegion gan berthnasau oedd yn gweithio ar y môr. Mae’r arferiad symbolaidd hwn yn cael ei atgyfodi ar gyfer yr Eisteddfod er mwyn galw pobl i’r stondin i glywed un o’n sgyrsiau ac i ymuno yn y drafodaeth.

Bydd Justin Albert yn sgwrsio gyda’r darlledwr adnabyddus Dei Tomos yn BayArt, 54 Heol Bute, Caerdydd, CF10 5AF. Bydd Justin Albert yn rhannu ei feddyliau a’i uchelgais ynglŷn â sut y gall yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru barhau â’i gwaith cadwraeth hanfodol a manteisio hefyd ar gyfleoedd i gryfhau’r cysylltiad rhwng pobl a lle. Ymhlith uchafbwyntiau eraill y rhaglen mae: (manylion am y rhaglen lawn ar gael ar-lein at http://bit.ly/2JWw1UP)

 

Dydd Sadwrn 4 Awst

2pm Guto RobertsHanesion Cwm Idwal

Yn y sgwrs hon bydd Guto Roberts, Swyddog Partneriaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn lansio pecyn dehongli newydd ar gyfer Cwm Idwal sy’n ffrwyth partneriaeth bwysig rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Parc Cenedlaethol Eryri a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae’n llawn gwybodaeth newydd a hanfodol am nodweddion hynod Gwarchodfa Natur Genedlaethol hynaf Cymru. Mae’n rhoi manylion am y dylanwad mae pobl wedi’i gael ar y dirwedd, cefndir hanesyddol enwau lleoedd, daearyddiaeth a bioamrywiaeth yr ardal a’r modd y mae’r lle arbennig hwn wedi ysbrydoli llawer o bobl o fyd y celfyddydau.

Dydd Sul 5 Awst

2pm Twm EliasEnwau lleoedd yng Nghymru

Yn ystod ei 35 mlynedd yn trefnu a chynnal cyrsiau yng Nghanolfan Parc Cenedlaethol Eryri, Plas Tan y Bwlch, mae Twm Elias wedi datblygu amrywiaeth eang o ddiddordebau mewn meysydd yn ymwneud â’r amgylchedd a threftadaeth ddiwylliannol. Mae’n awdur toreithiog ac yn ddarlledwr cyson ar radio a theledu yn trafod bywyd gwyllt, llên gwerin a hanes amaethu. Mae ganddo ddiddordeb byw mewn hybu dealltwriaeth o enwau lleoedd Cymraeg a’u gwarchod.

Dydd Llun 6 Awst

11.30am Siân James – Streic y Glowyr: mewn sgwrs gyda Dr Tomos Owen, Prifysgol Caerdydd

Daw Siân James o Gwm Tawe ac roedd yn fam ifanc pan ddechreuodd Streic y Glowyr yn 1984. Dechreuodd wirfoddoli er mwyn cefnogi a bwydo teuluoedd yn y cymunedau glofaol. Ar ôl y Streic ymgyrchodd dros hawliau menywod ac etholwyd hi i fod yn Aelod Seneddol dros y Blaid Lafur yn etholaeth Dwyrain Abertawe (2005-2015). Mae Siân yn parhau i ymgyrchu dros hawliau menywod, achosion cymunedol a chyfiawnder cymdeithasol. Mae Tomos Owen yn ddarlithydd yn yr Adran Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cyffwrdd â gwahanol agweddau ar lenyddiaeth Gymraeg.

Dydd Mawrth 7 Awst

11.30am Andrew GreenYmddiriedolaeth Genedlaethol i Gymru?

Mae Andrew Green yn ysgrifennwr, blogiwr a cherddwr. Rhwng 1998 a 2013 fe oedd Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae blog Andrew, sef Gwallter, yn adnodd gwerth ei ddarllen os am gadw bys ar bỳls diwylliannol Cymru http://gwallter.com/

 

6pm Cywion Cranogwen‘Llif’ *sgwrs wedi’i threfnu mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru

Grŵp o fenywod sydd â rhywbeth i’w ddweud yw Cywion Cranogwen.  Daeth y grŵp ynghyd y llynedd, ac ers hynny maen nhw wedi bod yn teithio ar hyd a lled Cymru yn rhannu eu barddoniaeth. Eu nod yw cyfuno barddoniaeth gyda chelf a cherddoriaeth i greu perfformiadau gwreiddiol sy’n talu teyrnged i arwresau benywaidd – yr amlwg a’r anghofiedig. Lansiwyd eu taith gyntaf ‘Corddi’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn flwyddyn ddiwethaf. Eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, maen nhw’n lansio eu taith newydd, Llif, sydd wedi’i seilio ar gyfres o gerddi sy’n llifo o’u tarddiad i’r môr.

Dydd Mercher 8 Awst

5.30pm Jacqui Mulville – Dod â’r Gorffennol i’r Presennol: O Anifeiliaid y Dyfodol i Archaeoleg Guerilla

Mae Jacqui Mulville yn Athro mewn Archaeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Sefydlodd ‘Guerilla Archaeology’ er mwyn gallu rhannu ei chariad at y gorffennol gyda’r cyhoedd. Mae hi’n llwyddo i gyfuno ei gwybodaeth arbenigol am wyddor archeoleg gyda’i chariad at y celfyddydau mewn digwyddiadau sy’n pontio gyda chynulleidfaoedd newydd sy’n mynychu gwyliau. O Shamans i Gyrff yn y Gors a naddu cyrn, dewiswyd ei gweithdai arloesol fel ‘un o’r 20 peth gorau i’w wneud yn Glastonbury 2017’ ac maen nhw’n denu miloedd o bobl bob blwyddyn i ddod i gymryd golwg newydd ar y gorffennol.

Dydd Iau 9 Awst

11am a 6pm Manon Steffan Ros12 o Straeon o’r Gorffennol

(Artist Preswyl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghastell Penrhyn, Gwynedd)

Fel nifer o bobl a fagwyd yng nghyffiniau Bethesda fe dyfodd Manon Steffan Ros i fyny gydag ymwybyddiaeth ddofn o’r hanes anodd sydd ynghlwm wrth gartref teuluol a gweithgareddau busnes yr Arglwydd Penrhyn. Yn fwyaf arbennig Streic y Penrhyn (1900-03) a arweiniodd at berthynas gythryblus gyda’r gymuned leol sydd wedi parhau dros nifer o genedlaethau. Er na fyddai sawl un o genhedlaeth Manon wedi tywyllu drws Castell Penrhyn oherwydd hyn, bu hi’n gwirfoddoli yno yn ystod ei harddegau. Ond gadawodd ar ôl cael cyfarwyddyd i beidio trafod yr hanes tywyll hwn oedd ynghlwm â’r castell gydag ymwelwyr. Ond mae Castell Penrhyn yn newid. Mae 12 Stori Manon yn cyfuno ysgrifennu creadigol, barddoniaeth, cerdd a gosodiadau celfyddydol yn y castell er mwyn ymateb i orffennol, presennol a dyfodol Penrhyn. Mae ei gwaith yn adlewyrchiad agored a gonest o wir hanes Penrhyn – sydd yn ei dro wedi gwneud iddi hi gwestiynu ei hunaniaeth ei hunan, yr hanes sy’n cael ei ddysgu i ni, a’r straeon rydyn ni’n eu hadrodd.

Bydd eitemau hefyd yn cael eu harddangos drwy gydol yr wythnos sy’n dangos y gwaith cadwraeth a threftadaeth amrywiol ac arloesol sy’n cael ei wneud gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru. Mae cyfle hefyd i sgwrsio’n anffurfiol gyda staff a gwirfoddolwyr.

Sylwadau