fbpx

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu penllanw project ailddatblygu £30 miliwn Sain Ffagan

This post is also available in: enEnglish (Saesneg)

Gwahoddir ymwelwyr â Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru – atyniad treftadaeth fwyaf a mwyaf poblogaidd Cymru – i ddod i ‘greu hanes’ yn dilyn cwblhau project ailddatblygu £30 miliwn.

Y project chwe blynedd hwn gan Amgueddfa Cymru yw’r project ailddatblygu mwyaf uchelgeisiol yn ei hanes. Cafwyd nawdd gan y Loteri Genedlaethol trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cymru a llawer o gefnogwyr eraill.

Parhaodd Sain Ffagan, sydd ar gyrion Caerdydd, ar agor drwy gydol y project a bu cyfleoedd i drigolion Cymru o Fôn i Fynwy fod yn rhan ohono. Mae 120 o sefydliadau cymunedol, elusennau a grwpiau lleol wedi cyfrannu at yr ailddatblygu trwy gynnig cyngor ac arbenigedd. Mae dros 3,000 o wirfoddolwyr wedi cyfrannu 21,000 o oriau o’u hamser. Cefnogwyd dros 100,000 o ddisgyblion ysgol, prentisiaid, artistiaid a lleoliadau gwaith. Nawr, bydd cyfleoedd i eraill rannu eu straeon, profiadau, gwybodaeth, casgliadau a sgiliau er mwyn sicrhau fod Sain Ffagan yn ddrych o fywyd yng Nghymru, o 230,000 o flynyddoedd yn ôl hyd heddiw.

Dyma bigion project ailddatblygu Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru:

  • Ailwampiwyd y prif adeilad gan gynnwys y fynedfa yn llwyr, bellach mae’n cynnwys ardal dan do a bwyty newydd sbon yn ogystal â chyfleusterau gwell i ymwelwyr. Mae’r Amgueddfa bellach yn atyniad glaw neu hindda, gyda digon i’w weld a’i wneud waeth beth fo’r tywydd.
  • Mannau newydd ar gyfer addysg ac ymchwil casgliadau yng Nghanolfan Ddysgu Weston sydd eisoes wedi croesawu dros 60,000 o ddisgyblion a myfyrwyr ers ei agor ym mis Medi 2017. Maent yn fannau o safon sy’n cyd-fynd ag enw da Amgueddfa Cymru fel darparwr addysg tu allan i’r ystafell ddosbarth mwyaf Cymru.
  • Tair oriel newydd sy’n cyfuno casgliadau hanes gwerin ac archaeoleg cenedlaethol Cymru:
    –        Cymru… Yma cewch gip ar fywyd yng Nghymru dros 230,000 o flynyddoedd. Mae’r 300 gwrthrych a’r 16 stori newidiol yn rhoi cyfle i bawb gyfrannu a chreu hanes gyda’n gilydd.
    –        Byw a bod Mae bywyd bob dydd hefyd yn rhan o’n hanes. Yn yr oriel hon, cewch weld sut mae pobl Cymru wedi gwisgo, bwyta, gweithio, chwarae a marw dros y canrifoedd.
    –        Gweithdy Dathlwch sgiliau cenedlaethau o grefftwyr yn yr adeilad pwrpasol hwn. Dewch i gael eich ysbrydoli gan y campweithiau yn yr oriel a rhoi cynnig ar grefftau traddodiadol. 
  • Llys Llywelyn Camwch i un o lysoedd Oes y Tywysogion. Yn seiliedig ar dystiolaeth archaeolegol o Lys Rhosyr ar Ynys Môn, yma cewch flas ar fywyd brenhinol Cymru yn 13eg ganrif. Bydd hefyd yn lle i blant ysgol aros dros nos yn yr Amgueddfa.
  • Bryn Eryr Dyma fferm Oes yr haearn sy’n seiliedig ar safle archaeolegol o gyfnod goresgyniad y Rhufeiniaid. Cafodd yr anheddiad gwledig ei adeiladu gan wirfoddolwyr. Mae gan y ddau dŷ crwn waliau clai chwe-throedfedd o drwch a thoeon gwellt crwn.
  • Rydym wedi ailddehongli un o’n hadeiladau hanesyddol, Sefydliad y Gweithwyr Oakdale, i greu arddangosiad dementia-gyfeilgar a man i gefnogi pobl sy’n dysgu Cymraeg.
  • Yr Iard dyma fan chwarae newydd sbon a grëwyd gan yr artist Nils Norman. Cafodd Nils ei ysbrydoli gan adeiladau hanesyddol Sain Ffagan. Mae’n fan i chwarae’n greadigol, neidio a dringo.
  • Crug Oes yr Efydd Dyma arbrawf i ail-greu cofeb gladdu o Oes yr Efydd ar y cyd â disgyblion uwchradd lleol, er mwyn dysgu mwy am hunaniaeth a bywydau pobl yr oes.

Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru:

“Yn yr un modd â stori Cymru, mae stori’r Amgueddfa yn dal i esblygu.

“Sain Ffagan yw atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru, ac mae ganddi le arbennig yng nghalonnau’r Cymry. Amgueddfa’r bobl yw hi, sy’n ein tywys drwy’r oesau trwy fywydau bob dydd ei thrigolion. Mae hoff bethau’r bobl am yr Amgueddfa’r union yr un peth, ond rydym hefyd wedi creu rhannau newydd a phwysig yma.

“Cafodd Sain Ffagan ar ei newydd wedd ei chreu diolch i gymorth ymarferol a haelioni nifer fawr o bobl, o Gymru a thu hwnt. Gwireddwyd y project diolch i gyfraniadau hael chwaraewyr y Loteri Genedlaethol; dros 3,000 o wirfoddolwyr a 120 o sefydliadau cymunedol, elusennau a grwpiau lleol o bob cwr o Gymru.

“Nid project â chanddo ddechrau a diwedd yn unig mohono. Mae’n ffordd newydd o weithio ar gyfer y sefydliad cyfan, sy’n seiliedig ar gyfiawnder cymdeithasol a chymryd rhan. Dyma ethos y byddwn yn ei chynnal ac yn ei datblygu dros y blynyddoedd nesaf. Mae’n ddechrau cyfnod newydd yn Sain Ffagan, a holl amgueddfeydd cenedlaethol Cymru.”

Yn 2012, dyfarnwyd £11.5m i broject Sain Ffagan gan y Loteri Genedlaethol i ddechrau ar y gwaith ailddatblygu. Dyma’r grant mwyaf erioed i gorff yng Nghymru gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Meddai Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Syr Peter Luff:

“Gwireddwyd project ailddatblygu Sain Ffagan diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae’r chwaraewyr hynny wedi codi bron i £400 miliwn i gefnogi dros 2,600 o brojectau treftadaeth Cymreig o bob maint, ond dyma’r mwyaf yn eu plith.

“Mae project helaeth ac uchelgeisiol Creu Hanes yn deyrnged i’r gwaith hynod a wnaed gan Sain Ffagan dros y 70 mlynedd diwethaf. Ers agor ei drysau am y tro cyntaf ym 1948, mae wedi rhoi cartref hygyrch a deniadol i dreftadaeth, straeon a diwylliant Cymru gan greu cyfle i bobl Cymru, y DU a gweddill y byd greu cysylltiadau â’r wlad a’i phobl.

“Wrth i Sain Ffagan ddechrau ar gam nesaf ei thaith, yn ddi-os bydd yn parhau i ddangos y ffordd i amgueddfeydd eraill, yn y DU a gweddill y byd, gan gynorthwyo pobl i ddeall cyfoeth eu hunaniaeth a chan swyno cenedlaethau newydd am flynyddoedd i ddod.

“Rydym yn falch iawn o fod wedi sicrhau rhan hollbwysig chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ym mhennod nesaf yr Amgueddfa.”

Yn ogystal â nawdd ychwanegol gan yr Amgueddfa a rhoddion preifat, rhoddwyd £7m gan Lywodraeth Cymru, tuag at weddnewid yr Amgueddfa.

Sylwadau