fbpx

Tîm Cymru I Ddychwelyd I’r Cae Ras Am Y Tro Cyntaf Mewn 10 Mlynedd

This post is also available in: enEnglish (Saesneg)

Bydd tîm cenedlaethol Cymru yn dychwelyd i’r Cae Ras yn Wrecsam am y tro cyntaf mewn degmlynedd ar gyfer sesiwn hyfforddi agored ar y 21ain o Fai cyn eu gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico yn LA ar y 28ain o Fai.

Bydd y sesiwn hyfforddi am ddim ac yn rhoi cyfle i gefnogwyr lleol ac o du hwnt i wylio’r tîm cenedlaethol yn hyfforddi yn un o gaeau pêl-droed mwyaf hanesyddol Cymru. Y tro diwethaf i Gymru chwarae yn y Cae Ras oedd yn 2008 mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Norwy. Sgoriodd Fletcher a Koumas mewn buddugoliaeth o 3-0.

Ryan Giggs, rheolwr y tîm cenedlaethol, oedd tu ôl y syniad o ddychwelyd i’r Cae Ras i chwarae:

“Mae gen i atgofion melys o chwarae yn y Cae Ras ac o wylio Cymru’n chwarae yno yn ystod y1980’au pan oeddwn i’n tyfu i fyny. Rwy’n dal i gofio cymaint wnaeth y fuddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Sbaen fy ysbrydoli fel bachgen ifanc pan sgoriodd Mark Hughes ac Ian Rush ddwywaith.

“Mae’n wych gallu dychwelyd i stadiwm sydd cymaint o ran o hanes pêl-droed yng Nghymru. Er nadyw’n bosib cynnal gêm yno ar hyn o bryd, bydd y sesiwn hyfforddi yn rhoi cyfle i’r garfan bresennol fod yn rhan o’r hanes a gobeithio bydd yn rhoi cyfle i gymaint o gefnogwyr gogledd Cymru ag sy’nbosib gweld y tîm yn chwarae’n lleol.”

Bydd y sesiwn hyfforddi yn dechrau am 10:30yb ac yn gorffen erbyn 12:30yh. Mae’r sesiwn hyfforddiam ddim a bydd tocynnau ar gael ar y giât, ar y diwrnod – y cyntaf i’r felin caiff falu.

Sylwadau