fbpx

Tymheredd iâ yn gynhesach na’r disgwyl ar relwif ucha’r byd

This post is also available in: enEnglish (Saesneg)

Mae tymheredd yr iâ o fewn rewlif ucha’r byd ar lethrau Mynydd Everest yn gynhesach na’r disgwyl, yn ôl ymchwil newydd gan rewlifegwyr o brifysgolion Aberystwyth, Kathmandu, Leeds a Sheffield.

Cafodd y canfyddiadau eu datgelu mewn papur a gyhoeddwyd yn Scientific Reports – cyfnodolyn mynediad agored ac uchel ei barch a gyhoeddir ganNature.

Fe deithiodd prif awdur yr adroddiad Katie Miles a’r Athro Bryn Hubbard o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, i Rewlif Khumbu yn Nepal yn 2017 a 2018 fel rhan o brosiect ymchwil EverDrill.

Tra’n gweithio ar uchder o hyd at 5,000 metr, bu Katie Miles, sy’n ymgeisydd PhD, a’r Athro Hubbard yn drilio’n ddwfn i grombil y rhewlif gan ddefnyddio uned golchi ceir wedi’i haddasu’n arbennig.

Ym mis Mai 2017, nhw oedd yn cyntaf i dyllu’n llwyddiannus i waelod yr Rhewlif Khumbu. Nhw hefyd oedd y cyntaf i gofnodi tymhered y rhewlif islaw’r haenen sydd yn cael ei heffeithio gan y tymhorau.

Yn ystod y gwaith gosodwyd synwyryddion tymheredd a adeiladwyd gyda chymorth Dr Samuel Doyle o Brifysgol Aberystwyth, yn y tyllau yn yr ia yn ardal abladiad is y rhewlif a’u gadael yno am rhai misoedd i gasglu data.

Dangosodd y mesuriadau a ddeillio o hyn isafbwynt tymheredd rhew o −3.3°C yn unig ac roedd hyd yn oed tymheredd yr iâ oeraf a fesurwyd 2°C yn gynhesach na thymheredd cymedrol blynyddol yr awyr.

Dywedodd Katie Miles:

“Mae’n canlyniadau ni’n dangos bod hyd yn oed newidiadau bach o ran cynhesu atmosfferig yn gallu cael effaith ar rewlifoedd uchel yr Himalaya ac mae goblygiadau pwysig yma i bobl yn ogystal ag i’r blaned. Mae miliynau o bobl sy’n byw wrth odre’r Hindŵ-Kush-Himalaya yn dibynnu ar rewlifau fel rhan o’u hadnodd dŵr. Gallai cynnydd mewn tymheredd ar y wyneb arwain at leihad dros y 30 mlynedd nesaf yn y llifeiriant o ddŵr sy’n toddi ar y rhewlifoedd ac yn cyfrannu at adnoddau dŵr yn is i lawr.”

Dywedodd yr Athro Bryn Hubbard, Cyfarwyddwr Canolfan Rhewlifeg Prifysgol Aberystwyth a deiliad Medal Pegynnau’r Frenhines:

“Mae ein gwaith yn yr Himalaya yn adeiladu ar ymchwil ehangach gan yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn Aberystwyth, lle rydym wedi bod yn mesur ac yn modelu sut mae iâ rhewlifol yn llifo ers sawl degawd – yn yr Arctig a’r Antarctig yn ogystal â’r Alpau ac yn fwy diweddar, yn Nepal. Mae deall yr hyn sy’n digwydd o fewn y rhewlifoedd hyn yn hanfodol i ddatblygu modelau cyfrifiadurol i’n helpu i broffwydo sut maent  yn debygol o ymateb i’r newid a ragwelir yn yr hinsawdd.

“Un o briodweddau allweddol yr iâ ‘cynnes’ rydym wedi’i fesur o fewn Rhewlif Khumbu yw bod unrhyw fewnbwn egni ychwanegol, megis o belydrau’r haul ac aer cynnes, yn toddi’r iâ hwnnw, gan gynhyrchu dŵr ac ma hyn yn golygu y bydd y rhewlif yn arbennig o sensitif i unrhyw gynhesu yn yr hinsawdd yn y dyfodol. Mewn cyferbyniad, mae mewnbwn egni pellach i iâ ‘ oer ‘ (sydd ar unrhyw dymheredd islaw ei ymdoddbwynt) ond yn cynhesu’r rhew hwnnw ymhellach tuag at sero, heb gynhyrchu unrhyw ddŵr toddedig.”

Mae’r Athro Bryn Hubbard a Miss Katie Miles yn cydweithio ar brosiect EverDrill gyda Dr Duncan Quincey (arweinydd y prosiect) a Dr Evan Miles o Brifysgol Leeds, a Dr Ann Rowan o Brifysgol Sheffield. Mae Dr Quincey a Dr Rowan ill dau yn gyn-fyfyrwyr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.

Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol y DU, NERC, sy’n ariannu’r gwaith ymchwil.

Sylwadau